Cyngor Ysgol

Rydym ni, y Cyngor Ysgol yn gynrychiolwyr o bob blwyddyn ysgol. Rydym yn cwrdd i drafod pethau sydd wedi codi, i drefnu i godi arian i brynu adnoddau (gêmau, adnoddau amser chwarae a.y.b.). Mae gennym bolisi a chofnodion y Cyngor Ysgol yn cael eu harddangos ar fwrdd y Cyngor Ysgol.

Ysgol Iach

Mae’r ysgol yn rhan o raglen ‘Ysgolion Iach’. Mae gan yr ysgol pump deilen werdd hyd yn hyn, ac rydym yn parhau a’r amcanion. Mae’r rhaglen yn chwarae rhan pwysig ym mywyd bod dydd yr ysgol. Mae gan y plant yr hawl i ddod â photel ddwr eu hunain i’r ysgol, ac maent yn cael eu annog i yfed digon o ddwr a bwyta pryd o fwyd cytbwys.

Mae siop ffrwythau yn yr ysgol ble mae’r plant yn gallu prynu amryw o ffrwythau ffres neu dost amser chwarae. Rydym yn trafod materion iechyd yn rheolaidd fel rhan o waith ysgol y disgyblion.

Rydym yn rhan o ymgyrrch ‘Milltir y Dydd’ a Hawliau Plant.