Croeso i Ysgol Gynradd Cefneithin

‘Gwreiddiau Cadarn – Sylfaen y Dyfodol’


‘Mae’r weledigaeth o osod ‘Gwreiddiau Cadarn – Sylfaen i’r Dyfodol’ yn adlewyrchu ethos yr ysgol i annog disgyblion i fyfyrio ar eu gwerthoedd ac i weithredu arnynt. Mae pawb yn cael eu parchu ac maent yn ofalgar iawn o’i gilydd a’r gymuned. O ganlyniad, mae agwedd y disgyblion at eu dysgu yn gryfder ac mae eu hymddygiad yn rhagorol’. – Arolwg Estyn 2023

Dychwelyd i’r ysgol ar ol gwyliau’r Pasg – 8/4/24

HMS – 3/5/24

Mae Ysgol Gynradd Cefneithin yng nghanol pentref Cefneithin. Mae’r wefan hon wedi cael ei baratoi i roi gwybod i ddarpar rieni a chynulleidfa ehangach am y profiadau niferus ac amrywiol sydd yn cael eu gwneud gan ddisgyblion yr ysgol.

Defnyddiwch y botymau llywio uchod i’ch tywys o gwmpas y wefan i gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol.

Datganiad Cenhadaeth

(Ffocws Heddiw)

I greu amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol fagu hyder a datblygu eu llawn potensial trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Ein Gweledigaeth

(Ffocws ar y dyfodol)

Yn ysgol Cefneithin, ceisiwn greu awyrgylch dysgu ac addysgu hapus a diogel sy’n symbylu ac yn darparu ar gyfer anghenion ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol pob plentyn, trwy hybu disgwyliadau uchel trwy’r ysgol wrth sicrhau ein bod yn meithrin –

  1. Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  3. Dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd.
  4. Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Anelwn at sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddatblygu i’w lawn botensial a ffynnu o fewn diwylliant ysgol ddwyieithog, gariadus, digidol a chefnogol.

Linc i ”Clwb Joio’ ar ôl ysgol gyda Menter Cwm Gwendraeth – Bob prynhawn Dydd Mawrth ac Iau 3:20-5:00yh

https://www.ycwtsh.com/bookings-checkout/clwb-joio-ysgol-cefneithin/book?referral=service_list_widget

Cliciwch ar y linc i’w agor.

Linc i ddyddiadau tymor Sir Gaerfyrddin:
http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/education-schools/school-term-dates.aspx#.WXnCLdPyuuU  

Gweler y linc isod ar gyfer trefniadau cofrestru plant i’r ysgol ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/derbyn-i-ysgolion-a-newid-ysgol/gwneud-cais-am-le-rhan-amser-mewn-meithrinfa-3-oed/#.Yuzf_3bMI2w

Adroddiad llawn Estyn ar Ysgol Gynradd Cefneithin 2023

https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2023-08/Adroddiad%20arolygiad%20Cefneithin%20Primary%20School%202023.pdf

Adroddiad Crynodeb i Rieni a Gofalwyr Ysgol Gynradd Cefneithin

https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2023-08/Rhieni%20a%20gofalwyr%20-%20Adroddiad%20arolygiad%20-%20Ysgol%20Gynradd%20Cefneithin%202023.pdf